Datganiad am roi stop ar amddifadu ceiswyr lloches
Credwn ei fod yn greulon ac yn annerbyniol fod rhai ceiswyr lloches yn cael eu gwneud yn ddigartref neu’n amddifad gan bolisïau’r llywodraeth. Mae gan pob dinas bobl amddifaid neu rai sy’n byw ar barseli bwyd am eu bod heb fodd i fyw. Rhown ein cefnogaeth i alwad ‘Church Action on Poverty’ am weld newid yn y polisïau sy’n achosi i geiswyr lloches gwrthodedig fod yn amddifad.
Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. Hebreaid 13:2
Fel cymdeithas mae gennym gyfrifoldebau rhyngwladol, moesol a chyfreithiol, i groesawu’r rhai sy’n dianc oddi wrth helbulon mewn rhannau eraill o’r byd ac i ddarparu nawdd cymdeithasol iddynt. Ond mae bygwth amddifadrwydd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o roi pwysau ar geiswyr lloches gwrthodedig i adael y wlad.
Nid oes gan lawer o’r ceiswyr lloches gwrthodedig lwybr diogel i ddychwelyd i’w gwlad ac mae eu dogfennau teithio yn achosi llawer o broblemau logistic wrth geisio eu symud. Hefyd mae llawer achos ble mae cais am loches yn cael ei wrthod mewn ffordd anghyfiawn.
Dylai pawb ym mhob ardal - gan gynnwys ceiswyr lloches – gael y cyfle i helpu eu hunain a chymdeithas drwy fod mewn gwaith cyflogedig. Ble nad yw hyn yn bosib, dylai ceiswyr lloches, beth bynnag fo’u statws, gael yr hawl i “fwyd, dillad, cartref a gofal meddygol a gwasanaethau cymdeithasol fel bo angen” (Datganiad ar Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig).
Mae ceiswyr lloches gwrthodedig yn dal i fod yn ddynol ac yn haeddu cael eu trin yr un fath, fel y disgwyliem ni gael ein trin petai’n raid i ni ffoi i wlad arall. Dylem ddangos yr un parch tuag at ein cymdogion ag y disgwyliwn tuag atom ein hunain. Dyma sail y ffydd Gristnogol a sawl ffydd arall.
Galwn felly ar y llywodraeth i adael i geiswyr lloches gynnal eu hunain a chyfrannu i’r gymdeithas ehangach drwy fod mewn gwaith cyflogedig, ac os nad yw hyn yn bosib, i ailsefydlu hawliau’r ceiswyr lloches gwrthodedig i fudd-daliadau hyd nes daw’r amser iddynt gael eu symud ymlaen.